P-06-1228 Talu bonws i athrawon uwchradd am farcio a safoni asesiadau swyddogol haf 2021
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Lisa M Williams, ar ôl casglu cyfanswm o 1,252 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
O ganlyniad i’r pandemig, athrawon Cymru sydd yn cario’r baich am farcio, safoni a chymedroli asesiadau TGAU, UG ac A2 yn lle’r byrddau arholi. Mae hyn ar ben dysgu amserlen arferol a marcio gwaith dysgwyr eraill. Mae rhai athrawon ond wedi cael eu rhyddhau am un awr i gyflawni’r gwaith sydd yn anochel felly wedi gorfod cael ei gwblhau ar ôl oriau gwaith ac ar y penwythnos. Mae athrawon CA4 a 5 Cymru yn haeddu bonws am eu hymdrechion fel athrawon Yr Alban.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Cwm Cynon
· Canol De Cymru